Plas Menai

PLAS MENAI YN AILAGOR I'R CYHOEDD - PLAS MENAI RE-OPENS TO THE PUBLIC

Plas Menai, The National Outdoor Centre is set to re-open again this May, following months of an extensive refurbishment to the heating system.
The Welsh Government’s desire for a greener nation has led to Plas Menai being one of the first buildings in Wales of its age and stature to be fitted with a new ground source heating system. The work has been crucial for creating a sustainable future for the building and our centre that has been at the forefront of the provision of outdoor adventures for over 40 years. Plas Menai is leading by example in reducing carbon emissions and supporting the move towards the entire public sector becoming carbon neutral by 2030.
The project itself has encountered a few delays and work continues around the site with a few areas still being developed, however, we are pleased to be able to announce that the centre itself with re-open on Monday 9th May 2022. We are looking forward to seeing both customers and staff taking advantage of this fantastic time of year both on and off the water.
Our staff have been busy behind the scenes throughout the closure and have worked hard to upskill and develop to ensure that the Plas Menai offering for 2022 is more extensive than ever before.
This season sees the introduction of our new Personal Watercraft Course, which is sure to be hugely popular, especially when taking in to account our location on the Menai Strait. We have been able to re-introduce our Cruising programme for 2022, following Covid restrictions being lifted. Seeing the yacht out on the water and the faces of happy participants learning how to sail if what Plas Menai’s reputation has been built on.
We have an extensive summer programme planned for outdoor enthusiasts, both young and old. We have courses available to take you from a beginner, learning the basics, right through to advanced level and certificated courses.
Our school groups are set to return and to hear the buzz of enthusiastic youngsters around the centre, following a quiet few months, is what the staff are looking forward to the most. We are excited to welcome back the hundreds of children, who travel from around the UK, to enjoy all that we have to offer. Our ever-popular pay and play club for Menai Dragons also returns this month, teaching local youngsters sailing skills. We are also looking forward to welcoming back our swimmers after what is sure to have been a long winter out of the pool. Swimming lessons will commence from Saturday 14th May.
As the year progresses, take advantage of the great outdoors by joining one of our guided lowland or mountain walks or utilise our kit to learn to mountain bike. Alternatively join one of our clubs designed to meet like-minded individuals, such as our weekly SUP evenings or windsurfing groups. There may be theory courses that need to be completed to take you on to the next level in your chosen sport. Plas Menai has something for everyone. Contact us today on 0300 3003112 for more information or check out our website www.plasmenai.wales for a comprehensive list and information on all that Plas Menai has to offer. 
Whilst we are pleased to be back open, there are a few restricted areas around the site including the car park. Should this impact you in any way, the team will be in touch with you in advance to let you know any changes to usual protocols around the centre.  

Bydd Plas Menai, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol, yn ailagor eto fis Mai eleni, yn dilyn misoedd o waith adnewyddu helaeth ar y system wresogi.
Mae dyhead Llywodraeth Cymru i greu cenedl wyrddach wedi arwain at Blas Menai yn dod yn un o’r adeiladau cyntaf yng Nghymru o’i oedran a’i statws i gael system wresogi newydd o ffynhonnell daear. Mae’r gwaith wedi bod yn hollbwysig ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy i’r adeilad a’n canolfan sydd wedi bod ar flaen y gad o ran darparu anturiaethau awyr agored ers dros 40 mlynedd. Mae Plas Menai yn arwain drwy esiampl o ran lleihau allyriadau carbon a chefnogi’r symud tuag at y sector cyhoeddus cyfan yn dod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Mae'r prosiect ei hun wedi wynebu ychydig o oedi ac mae gwaith yn parhau o amgylch y safle gyda rhai ardaloedd yn parhau i gael eu datblygu. Fodd bynnag, rydym yn falch o allu cyhoeddi y bydd y ganolfan ei hun yn ailagor ddydd Llun 9fed Mai 2022. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cwsmeriaid a’r staff yn manteisio ar yr amser gwych hwn o’r flwyddyn ar ac oddi ar y dŵr.
Mae ein staff wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni trwy gydol y cyfnod cau ac wedi gweithio’n galed i uwchsgilio a datblygu i sicrhau bod darpariaeth Plas Menai ar gyfer 2022 yn ehangach nag erioed o’r blaen.
Y tymor yma, mae ein Cwrs Cerbydau Dŵr Personol newydd yn cael ei gyflwyno, sy’n sicr o fod yn hynod boblogaidd, yn enwedig wrth ystyried ein lleoliad ar lan y Fenai. Rydym wedi gallu ailgyflwyno ein rhaglen Forio ar gyfer 2022, ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu codi. Gweld yr iot allan ar y dŵr ac wynebau cyfranogwyr hapus yn dysgu sut i hwylio arni yw sylfaen enw da Plas Menai.                
Mae gennym ni raglen haf helaeth wedi'i chynllunio ar gyfer pobl sy'n hoff o’r awyr agored, hen ac ifanc. Mae gennym ni gyrsiau ar gael i fynd â chi o ddechreuwr, gan ddysgu'r sylfeini, hyd at gyrsiau lefel uwch a thystysgrif.
Mae ein grwpiau ysgol ar fin dychwelyd a chlywed bwrlwm ieuenctid brwdfrydig o gwmpas y ganolfan, ar ôl misoedd tawel, yw'r hyn y mae'r staff yn edrych ymlaen ato fwyaf. Rydym yn gyffrous am groesawu’r cannoedd o blant yn ôl, plant a fydd yn teithio o bob rhan o’r DU, i fwynhau popeth sydd gennym i’w gynnig. Mae ein clwb talu a chwarae poblogaidd i Ddreigiau Menai yn dychwelyd y mis yma hefyd i ddysgu sgiliau hwylio i bobl ifanc leol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu ein nofwyr yn ôl ar ôl yr hyn sy’n siŵr o fod wedi bod yn aeaf hir allan o’r pwll. Bydd y gwersi nofio yn cychwyn o ddydd Sadwrn 14eg Mai ymlaen.
Wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, manteisiwch ar yr awyr agored gwych drwy ymuno ag un o’n teithiau cerdded tywys yn yr iseldir neu ar y mynyddoedd neu ddefnyddio ein cit i ddysgu beicio mynydd. Fel dewis arall, ymunwch ag un o'n clybiau sydd wedi'u cynllunio i chi gwrdd ag unigolion tebyg i chi, fel ein nosweithiau SUP wythnosol neu grwpiau gwyntsyrffio. Mae’n bosibl y bydd angen cwblhau cyrsiau theori i fynd â chi ymlaen i’r lefel nesaf yn y gamp o’ch dewis. Mae gan Blas Menai rywbeth at ddant pawb. Cysylltwch â ni heddiw ar 0300 3003112 am fwy o wybodaeth neu edrychwch ar ein gwefan ni www.plasmenai.wales am restr gynhwysfawr a gwybodaeth am bopeth sydd gan Blas Menai i'w gynnig.
Er ein bod yn falch o fod ar agor eto, mae rhai ardaloedd cyfyngedig o amgylch y safle, gan gynnwys y maes parcio. Os bydd hyn yn effeithio arnoch chi mewn unrhyw ffordd, bydd y tîm yn cysylltu â chi ymlaen llaw i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’r protocolau arferol o amgylch y ganolfan.



Added to Cart
×

Qty:

Checkout