Pwll Nofio

Pwll Nofio

Dysgwch nofio yma ym Mhlas Menai

Dysgwch nofio yma ym Mhlas Menai

Mae Parkwood Leisure, un o weithredwyr hamdden mwyaf blaenllaw'r DU, wedi dod â'i raglen Dysgu Nofio arobryn i Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai.

Nod y rhaglen yw addysgu plant ac oedolion i ddod yn nofwyr cymwys a chryf i hyrwyddo diogelwch yn y dŵr, gan ymgorffori canlyniadau diogelwch penodol a gymeradwyir gan y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd (RLSS).

Wedi’i lansio mewn partneriaeth â Nofio Cymru, mae’r rhaglen Dysgu Nofio yn rhan o ymrwymiad Parkwood Leisure i dyfu a gwella gwasanaethau Plas Menai yn dilyn ei benodi’n ddarparwr rheolaeth newydd ar gyfer y ganolfan genedlaethol ym mis Chwefror. Mae’r gwaith o redeg y Ganolfan o ddydd i ddydd yn cael ei reoli gan bartner Parkwood Leisure, Legacy Leisure.

Ers ei lansio’n gynharach eleni, mae’r rhaglen eisoes wedi’i hehangu i gynnwys lefel Ton 1 Nofio Cymru, wedi’i hanelu at blant sy’n dechrau ar eu taith nofio. Mae lefelau uwch yn cefnogi plant hŷn sy’n paratoi ar gyfer Clwb Nofio, gan hefyd annog oedolion a phlant i gymryd rhan yn ddiogel mewn nofio er mwyn gwella eu hiechyd, eu ffitrwydd a’u lles.

Mae’r pwll nofio wedi bod yn faes datblygu mawr ym Mhlas Menai, gan fod y rhaglen Dysgu Nofio yn rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan, waeth beth fo unrhyw ffactorau neu amgylchiadau gwahaniaethol, gan helpu i gefnogi nofio fel rhan o ffordd iach o fyw. Mae'r Ganolfan hefyd yn recriwtio ar gyfer mwy o Athrawon Nofio yn unol â'r galw am wersi nofio.

Mae llwyddiant y rhaglen, a ragorodd ar 100,000 o ddysgwyr yr haf diwethaf, hefyd wedi cael cydnabyddiaeth diwydiant ehangach yn y blynyddoedd diwethaf, gyda’r cynllun yn cael canmoliaeth uchel mewn dau gategori yng Ngwobrau ukactive 2021 a 2022.
Dosbarth Cyn-geni yn y Dŵr

Dosbarth Cyn-geni yn y Dŵr

£4.30 y pen
Nofio hyd y Pwll

Nofio hyd y Pwll

£4.30 y pen
Nofio hyd y Pwll – Gostyngiad

Nofio hyd y Pwll – Gostyngiad

£3.00 y pen
Nofio rhiant a phlentyn

Nofio rhiant a phlentyn

£4.30 y pen
Nofio Cyhoeddus

Nofio Cyhoeddus

£4.30 y pen
Public Swim - Under 5 - FREE

Public Swim - Under 5 - FREE

£0.00 y pen
Consesiwn Nofio Cyhoeddus

Consesiwn Nofio Cyhoeddus

£3.00 y pen
Nofio hyd y Pwll i Ferched yn Unig

Nofio hyd y Pwll i Ferched yn Unig

£4.30 y pen
CONSESIWN - Nofio hyd y Pwll i Ferched yn Unig

CONSESIWN - Nofio hyd y Pwll i Ferched yn Unig

£3.00 y pen
Added to Cart
×

Qty:

Checkout