Youth Courses - Begin Your Sailing Career at an Early Age

Cyrsiau Ieuenctid - Dan 16 oed

Cyrsiau Ieuenctid - Datblygu sgiliau o oedran cynnar

Mae ein dewis o gyrsiau yn cynnig yr opsiwn perffaith i blant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ar y dŵr a dysgu sgiliau gwerthfawr o oedran ifanc.

I bobl ifanc sydd eisiau dechrau eu gyrfa hwylio o oedran cynnar, neu deuluoedd sydd eisiau diddanu’r plant, mae ein hamrywiaeth o gyrsiau ieuenctid yn darparu amgylchedd dysgu hwyliog a chefnogol i blant wyth oed a hŷn ddysgu sgiliau newydd ar y dŵr ac ar y tir.

O hwylio i wyntsyrffio a gyrru cychod pŵer, mae ein dewis o gyrsiau yn cynnig yr opsiwn perffaith i blant gymryd rhan yn ein gweithgareddau ar y dŵr a dysgu sgiliau gwerthfawr o oedran ifanc. Byddant yn gallu defnyddio’r sgiliau hyn mewn canolfannau ar draws y byd, gyda chyrsiau achrededig yr RYA sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

I'r rhai sydd eisiau wythnos o fwrlwm yn llawn gweithgareddau, mae ein Hwythnos Antur yn gyfle perffaith i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a mwynhau anturiaethau di-dor. Gyda chyffro ac antur rownd pob cornel, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y dŵr ac oddi arno. O feicio mynydd i gaiacio, gwyntsyrffio i ganŵio, adeiladu cuddfannau a byw yn y gwyllt i badlfyrddio yn sefyll, does byth eiliad ddiflas.

Darganfyddwch fwy am yr Wythnos Antur llawn hwyl ac wythnosau Traeth, Môr, Hwylio a Syrffio ynghyd â'n holl gyrsiau ieuenctid sydd wedi’u hachredu gan yr RYA gan ddefnyddio'r dolenni isod.


Dan 16 oed Hwylio

Dan 16 oed Hwylio

Gyda dros 40 mlynedd o brofiad mewn darparu hyfforddiant hwylio arbenigol, rydym yn sicrhau...
Dan 16 oed Gwyntsyrffio

Dan 16 oed Gwyntsyrffio

Gyda blynyddoedd o brofiad o cyflwyno hyfforddiant hwylfyrddio arbenigol, rydym yn sicrhau bod...
Dan 16 oed Cychod Pwer

Dan 16 oed Cychod Pwer

Gyda blynyddoedd o cyflwyno hyfforddiant cychod pŵer arbenigol, rydym yn sicrhau bod pob...
Added to Cart
×

Qty:

Checkout