Cyrsiau theori
Cyrsiau theori achrededig RYA
Sicrhewch fod gennych y wybodaeth gefndirol a'r cymwysterau angenrheidiol ar waith cyn i chi fynd i'r dŵr.
Mae llawer o’r cyrsiau, y cymwysterau a’r ardystiadau a gynigir ym Mhlas Menai yn gofyn am wybodaeth theori ac asesiadau, yn ogystal â sgiliau ar y dŵr. Rydym yn cynnig detholiad o gyrsiau theori ar-lein ac yn y ganolfan, i helpu i sicrhau bod gennych yr wybodaeth gefndir ac unrhyw gymwysterau angenrheidiol cyn i chi fynd i'r dŵr.
Mae ein cyrsiau sydd wedi’u hachredu gan yr RYA yn cael eu cydnabod ar draws y byd, sy’n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau personol neu yrfa mewn canolfannau ledled y byd. Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, rydym yn sicrhau bod ein hyfforddwyr ym Mhlas Menai yn darparu’r wybodaeth a’r addysg orau bosibl, gyda chefnogaeth blynyddoedd lawer o brofiad ymarferol mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored ac ar y dŵr.
Darganfyddwch fwy am yr holl gyrsiau theori rydyn ni'n eu cynnig gan ddefnyddio'r dolenni isod. Os oes arnoch chi angen cwrs theori nad yw wedi'i restru ar ein gwefan ni, bydd ein hyfforddwyr medrus a phrofiadol yn gallu rhoi sylw iddo. Cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar 0300 3003112 neu e-bostiwch ni ar info@plasmenai.wales i drafod cyrsiau pwrpasol.
Sylwer nad yw Pecynnau Cwrs a Deunyddiau'r RYA ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn hyfforddi staff sydd â gwybodaeth benodol ar y pynciau i ddarparu ein cyrsiau THEORI. Os bydd angen cyfieithydd arnoch ar gyfer y cwrs, rhowch wybod i ni yn y nodiadau wrth archebu.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty:
You can retake your photo as many times as you like, when you're happy with you photo press save. Once your photo has been saved, if you need to change this please contact us.