RYA & Internationally Recognised Instructor Training Courses

Hyfforddiant Hyfforddwyr

RYA a Chyrsiau Hyfforddi Hyfforddwyr a Gydnabyddir yn Rhyngwladol

Cychwyn ar yrfa yn yr awyr agored yn addysgu a hyfforddi amrywiaeth o weithgareddau ar y dŵr, gyda chyrsiau hyfforddi hyfforddwyr ym Mhlas Menai.

Beth am ddechrau ar yrfa yn yr awyr agored yn addysgu a hyfforddi amrywiaeth o weithgareddau ar y dŵr, gyda chyrsiau hyfforddi hyfforddwyr ym Mhlas Menai.

O gyrsiau’r RYA (y Royal Yachting Association) sy’n eich galluogi i ennill cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o weithgareddau dŵr, i Raglenni Datblygu Hyfforddwyr arbenigol sydd wedi’u cynllunio i helpu cyfranogwyr i ddechrau ar eu gyrfaoedd yn yr awyr agored a’u datblygu, rydym yn cynnig dewis cynhwysfawr sy’n addas i bawb.

O hwylio a gwyntsyrffio i yrru cychod pŵer, mae ein cyrsiau hyfforddwyr yn cynnig cymysgedd o hyfforddiant ymarferol ar y dŵr a theori ar y lan, gan ddefnyddio mwy na 40 mlynedd o brofiad i roi’r hyfforddiant gorau posibl i’r cyfranogwyr.

Rydyn ni’n adnabyddus am ansawdd ein hyfforddiant ac arbenigedd ein hyfforddwyr, ac mae ein cyrsiau sydd wedi’u hachredu gan yr RYA yn cael eu cydnabod ar draws y byd, sy’n eich galluogi chi i ddilyn eich gyrfa yn unrhyw le yn y byd bron.

Os hoffech chi gael swyddfa yn yr awyr agored ac os ydych chi eisiau’r cyfle i siapio ac ysbrydoli selogion y dyfodol yn y byd awyr agored, mae mwy o wybodaeth am ein llwybrau hyfforddwyr amrywiol a chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau ar gael gan ddefnyddio’r dolenni isod.

Sylwer nad yw Pecynnau Cwrs a Deunyddiau'r RYA ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn hyfforddi staff sydd â gwybodaeth benodol ar y pynciau i ddarparu ein cyrsiau THEORI. Os bydd angen cyfieithydd arnoch ar gyfer y cwrs, rhowch wybod i ni yn y nodiadau wrth archebu. Os ydych yn dymuno i'r cwrs / gweithgaredd hwn gael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, nodwch hynny yn y nodiadau wrth archebu a gallwn sicrhau bod gennych hyfforddwr sy'n siarad Cymraeg.

Hwylio - Hyfforddiant Hyfforddwr

Hwylio - Hyfforddiant Hyfforddwr

Ym Mhlas Menai, rydym yn falch o fod ag enw da yn rhyngwladol am gyflwyno cyrsiau o’r safon...
Hyfforddiant Hyfforddwr - Hwylfyrddio, Wingsyrffio a Ffoilio

Hyfforddiant Hyfforddwr - Hwylfyrddio, Wingsyrffio a Ffoilio

Mae ein hystod o gyrsiau Hyfforddwyr Hwylfyrddio, Wingsyrffio a Ffoili o wedi'u...
Hyfforddiant Hyfforddwyr Cychod Pŵer a Hyfforddwr PWC

Hyfforddiant Hyfforddwyr Cychod Pŵer a Hyfforddwr PWC

Beth am ddechrau ar yrfa yn yr awyr agored neu ei datblygu a dod yn hyfforddwr cychod...
Rhaglenni Fastrack

Rhaglenni Fastrack

Hyfforddwr chwaraeon padlo.

Hyfforddwr chwaraeon padlo.

Rhaglen Hyfforddi Hyfforddwyr Awyr Agored 2025

Rhaglen Hyfforddi Hyfforddwyr Awyr Agored 2025

£8944.80 y pen
Added to Cart
×

Qty:

Checkout