Gwersi a dosbarthiadau Nofio ym Mhlas Menai

Campfa a Nofio

Gwersi a dosbarthiadau Nofio ym Mhlas Menai

Mae gwersi nofio i oedolion ac iau yn helpu cyfranogwyr o bob oed i ddatblygu ac aros yn ddiogel ger y dŵr, wrth ddysgu gweithgaredd hwyliog ac iach.

Ym Mhlas Menai rydym yn cynnal rhaglenni ysgol nofio iau ac oedolion gwych. Mae nofio yn sgil bywyd sylfaenol y dylai pawb gael y cyfle i'w ddatblygu a'u helpu i gadw'n ddiogel ger y dŵr.


Gweld Pob Gwers Nofio
 

Gwersi Nofio Iau
Mae ein Llwybr Dysgu Nofio Iau yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Nofio Cymru ac mae’n parhau i ganolbwyntio ar hwyl a gemau i helpu plant i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod yn nofiwr cymwys. Mae plant yn cael eu harwain drwodd o'r sblash cynharaf i ddod yn nofwyr hyderus a chryf.
Ar gyfer ein gwersi nofio i blant meithrin rhwng 3 a 4 oed, rydym yn annog rhieni neu warcheidwaid yn gryf i fynd i mewn i’r dŵr gyda’u plentyn. Ar y cam datblygiadol hwn, gall cael presenoldeb cyfarwydd a chefnogol yn y dŵr gynyddu hyder a chysur y plentyn yn sylweddol, gan wneud y profiad dysgu yn un pleserus ac effeithiol. Mae cymryd rhan ochr yn ochr â’ch plentyn hefyd yn eich galluogi i fod yn rhan weithredol o’u cynnydd wrth iddynt ddatblygu sgiliau diogelwch dŵr ac yn y dŵr hanfodol.
 
ARCHEBWCH NAWR

 

Beth i ddod gyda chi ar gyfer eich gwersi nofio; 
 
Gogls Nofio 
Gwisgoedd Nofio (Shorts byr i fechgyn (yn ddelfrydol arddull jammer nid siorts traeth oherwydd y llusgo a achosir)), (Merched i gyd mewn un gwisg nofio nid arddull bicini neu leotard) 
Gwallt hir i'w glymu'n ôl mewn bobble neu het nofio i'w defnyddio Tywel 
Botal dwr os oes angen 
Cawod cyn mynd i mewn i ardal y pwll 
Dim esgidiau mwdlyd mewn ystafelloedd newid 
Mynediad ac allan drwy'r ystafelloedd newid 
Gwnewch bob ymdrech i gyrraedd mewn pryd
 

Gwersi Nofio i Oedolion
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu sut i nofio! Mae Nofio Cymru yn credu y dylai pob person gael y cyfle i ddysgu nofio a dod y nofiwr gorau y gall fod. Darllenwch fwy am fframwaith gwersi nofio oedolion Nofio Cymru yma.

Archebwch nawr

Gwersi Nofio Dwys

Mae Cyrsiau Dwys yn ffordd wych i blant gael eu cyflwyno i wersi nofio neu i wella'r hyn maen nhw'n ei wybod yn barod. Dosbarthiadau llai dros gyfnod o wythnos yn ymdrin â hanfodion nofio a diogelwch dŵr.
Cysylltwch i ddarganfod mwy.
 

Mae’n amser i ddathlu yn ein pwll! - PARTI PWLL YM MHLAS MENAI

 
Paratowch i greu sblash a chreu atgofion ar ddiwrnod arbennig eich plentyn. Be sydd gennym ar y gweill ar eich cyfer?
 
- Parti ar gyfer hyd at 30 gyda’n staff profiadol wrth law i sicrhau rhediad esmwyth o’r dechrau i’r diwedd. Dechreuwch eich parti gyda'r ddarpariaeth  o deganau pwll a matiau sydd gennym ar eich cyfer. Mae’n debyg y bydd pawb yn llwglyd ar ôl yr holl hwyl, ac yn barod i ymweld â’r ystafell fwyta am ginio a chacen pen-blwydd. 
 
- Hyd: 2 Awr - 1 awr o amser pwll ac 1 awr yn ein hystafell fwyta ar gyfer eich cinio parti. Ar gael o 11am ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Archebwch o leiaf 3 wythnos ymlaen llaw.
 
- Isafswm Niferoedd: 10 Plentyn + 2 Oedolyn, uchafswm o 30 gan gynnwys oedolion. Plîs nodwch fod rhaid i blant dan 8 oed fod gydag oedolyn yn y pwll ar sail 2:1. 
 
- Bwyd: Opsiynau poeth ac oer ar gael am bris y pen o fwydlen yn cynnwys nygets, selsig neu frechdanau. Pwdinau a diodydd meddal yn gynwysedig yn y pris. 
 
- Man Parti Dynodedig: Byddwch yn cael cyfle i addurno'r byrddau yn ein hystafell fwyta i dast eich plentyn.
 
Byddwn yn darparu achubwr bywyd trwy gydol eich sesiwn pwll. 
 
£90 ar gyfer defnydd ecsgliwsif o'r pwll. Dewisiadau bwyd ar gael o £4.95 y plentyn. 
Ffoniwch ni ar 0300 3003112 i archebu naill ai ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul.

 

EIN CAMPFA NEWYDD 

Yn ddiweddar rydym wedi adnewyddu ein campfa ar y safle ac rydym bellach yn gallu cynnig aelodaeth "Gampfa a Nofio" Plas Menai am £27.50 y mis. Mae hyn yn rhoi mynediad i ystafell y gampfa rhwng 8.30am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 8.30am - 7pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul pan fydd y ganolfan ar agor i'r cyhoedd.
 
Mae'r aelodaeth fisol yn daladwy drwy ein system Legend drwy ddebyd uniongyrchol. Bydd angen i chi ddod i'r dderbynfa i lenwi'r ffurflenni perthnasol.
 
Byddwch yn ymwybodol bod y gampfa ar gyfer pobl 18 oed a throsodd yn unig.
 
Gall cwsmeriaid sy'n aros yn y llety gael mynediad i'r gampfa, fodd bynnag, rhaid iddynt gwblhau datganiad eu bod yn addas i'w hymarfer. Gellir cwblhau'r ffurflen hon a'i storio ar y dderbynfa drwy gydol eich arhosiad.

Rydym yn darparu gwersi nofio preifat iau ac oedolion. Gwers nofio un-i-un gyda'n hathrawon medrus iawn i helpu pob unigolyn i gyrraedd ei nodau nofio personol.
Cysylltwch i ddarganfod mwy.
 

Ein Pwll

P'un a oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud hydoedd, cymryd dip ymlaciol, neu nofio i gael hwyl a ffitrwydd, mae sesiwn nofio i chi!

 

Darganfod mwy am ein pwll

Oeddet ti'n gwybod?

Gall nofio ysgafn losgi dros 200 Kcal mewn hanner awr a gall nofio wythnosol rheolaidd arwain at well patrymau cysgu a lefelau straen is. Mwy o Fuddiannau Iechyd.

1-1 gwersi nofio

Rydym bellach yn cynnig gwersi nofio un i un yn Plas Menai ar gyfer plant ac oedolion o bob gallu. Boed eich bod eisiau rhoi hwb i’ch gwersi nofio presennol neu’n chwilio am rywbeth tuag at eich datblygiad personol, mae’r gwersi hyn yn cynnig sylw unigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Ymholwch yn y dderbynfa am fwy o wybodaeth.

Added to Cart
×

Qty:

Checkout