Sea Kayaking Courses for Beginners & Experienced Kayakers

Cyrsiau caiacio môr

Caiacio Môr ar gyfer dechreuwyr a chaiacwyr profiadol

Os ydych chi’n gwbl newydd i gaiacio môr neu’n brofiadol ar y dŵr ac eisiau hogi eich sgiliau, bydd ein cyrsiau Caiacio Môr yn helpu i wella eich hyder a’ch galluoedd technegol.

Mae ein cwrs Darganfod Caiacio Môr pum diwrnod yn gyflwyniad delfrydol i'r gweithgaredd, gan ddarparu sylfaen gadarn i adeiladu arni a datblygu sgiliau mwy technegol. Nid oes angen unrhyw brofiad o gaiacio môr i gymryd rhan yn y cwrs hwn. Fodd bynnag, mae profiad blaenorol mewn caiac pwrpas cyffredinol yn cael ei ffafrio, a gellir sicrhau hyn drwy gyfrwng ein hystod o gyrsiau caiacio ym Mhlas Menai.

Wrth i chi fagu hyder, ac ar gyfer caiacwyr môr mwy profiadol, ewch â'ch sgiliau i'r lefel nesaf gyda'n cyrsiau gloywi a lefel uwch, lle byddwch chi'n dod yn fwy medrus ac yn dysgu technegau newydd ar y dŵr.

Mae gennym ni hefyd deithiau tywys gyda’n hyfforddwyr caiac profiadol, lle byddwch chi’n rhoi eich sgiliau ar brawf gyda rasys llanwol, gorlifau, trobyllau a thonnau sefyll.

Mae mwy o wybodaeth am ein holl gyrsiau a’n tripiau Caiacio Môr ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Darganfod Caiacio Môr – Cyflwyniad Cyffredinol – 5 diwrnod

Darganfod Caiacio Môr – Cyflwyniad Cyffredinol – 5 diwrnod

£434.50 y pen
Cyflwyniad i Ddŵr yn Symud a Rasys Llanwol - 2 ddiwrnod

Cyflwyniad i Ddŵr yn Symud a Rasys Llanwol - 2 ddiwrnod

£235.95 y pen
Clinig Rholio Caiac – 1 diwrnod

Clinig Rholio Caiac – 1 diwrnod

£110.00 y pen
Cynnydd Eich Caiacio Môr - Dilyniant Sylfaenol - 2 ddiwrnod

Cynnydd Eich Caiacio Môr - Dilyniant Sylfaenol - 2 ddiwrnod

£235.95 y pen
Darganfod Caiacio Môr – Cyflwyniad Sylfaenol – 2 ddiwrnod

Darganfod Caiacio Môr – Cyflwyniad Sylfaenol – 2 ddiwrnod

£235.95 y pen
Datblygu Eich Caiacio Môr – Cynnydd Cyffredinol - 5 diwrnod

Datblygu Eich Caiacio Môr – Cynnydd Cyffredinol - 5 diwrnod

£434.50 y pen
Taith y Fenai

Taith y Fenai

£214.50 y pen
Rasys Llanwol a Rhaeadrau - 2 ddiwrnod

Rasys Llanwol a Rhaeadrau - 2 ddiwrnod

£214.50 y pen
Added to Cart
×

Qty:

Checkout