Cyrsiau caiacio môr
Caiacio Môr ar gyfer dechreuwyr a chaiacwyr profiadol
Os ydych chi’n gwbl newydd i gaiacio môr neu’n brofiadol ar y dŵr ac eisiau hogi eich sgiliau, bydd ein cyrsiau Caiacio Môr yn helpu i wella eich hyder a’ch galluoedd technegol.
Mae ein cwrs Darganfod Caiacio Môr pum diwrnod yn gyflwyniad delfrydol i'r gweithgaredd, gan ddarparu sylfaen gadarn i adeiladu arni a datblygu sgiliau mwy technegol. Nid oes angen unrhyw brofiad o gaiacio môr i gymryd rhan yn y cwrs hwn. Fodd bynnag, mae profiad blaenorol mewn caiac pwrpas cyffredinol yn cael ei ffafrio, a gellir sicrhau hyn drwy gyfrwng ein hystod o gyrsiau caiacio ym Mhlas Menai.
Wrth i chi fagu hyder, ac ar gyfer caiacwyr môr mwy profiadol, ewch â'ch sgiliau i'r lefel nesaf gyda'n cyrsiau gloywi a lefel uwch, lle byddwch chi'n dod yn fwy medrus ac yn dysgu technegau newydd ar y dŵr.
Mae gennym ni hefyd deithiau tywys gyda’n hyfforddwyr caiac profiadol, lle byddwch chi’n rhoi eich sgiliau ar brawf gyda rasys llanwol, gorlifau, trobyllau a thonnau sefyll.
Mae mwy o wybodaeth am ein holl gyrsiau a’n tripiau Caiacio Môr ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Sylwch nad oes modd cyflwyno ein rhaglen Caiac Môr trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd yn seiliedig ar alluoedd iaith yr hyfforddwr.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty:
You can retake your photo as many times as you like, when you're happy with you photo press save. Once your photo has been saved, if you need to change this please contact us.