Cyrsiau Mordeithio
Dysgwch y pethau sylfaenol a gwella'ch sgiliau mordeithio
P'un a ydych chi'n gapten profiadol sy'n awyddus i ddysgu technegau newydd, neu nad ydych erioed wedi camu ar fwrdd cwch hwylio, mae ein hamrywiaeth o gyrsiau Cruising wedi'u cynllunio i alluogi pawb i ennill profiad gwerthfawr a gwella eu sgiliau ar y dŵr.
Os ydych chi’n gapten profiadol sydd eisiau dysgu technegau newydd, neu os nad ydych chi wedi camu ar fwrdd iot erioed, mae ein hystod ni o gyrsiau Morio a Iotio wedi cael eu cynllunio i alluogi pawb i gael profiad gwerthfawr a gwella eu sgiliau ar y dŵr.
Cyfle i ddysgu hanfodion hwylio cychod mawr drwy gymryd rhan yng nghwrs Dechrau Iotio yr RYA, sy'n rhoi cyflwyniad perffaith i forio. Erbyn diwedd y penwythnos, dylech fod yn gyfarwydd â llywio sylfaenol, trin hwyliau, gwaith rhaff, a bod yn ymwybodol o ddiogelwch ar fwrdd cwch.
Mae ein dewis ni o gyrsiau’n cynnwys popeth o ddod yn aelod gweithgar o’r criw i gapten arfordirol a iotfeistr, gan allu cwblhau teithiau mwy anodd yn ystod y dydd a’r nos, a thrin iot mewn amodau mwy heriol.
Mae ein holl gymwysterau a’n cyrsiau wedi’u hachredu gan yr RYA, ac maent yn cael eu cydnabod a’u parchu ledled y byd. Darganfyddwch fwy am ein holl gyrsiau gan ddefnyddio'r dolenni isod. Os oes arnoch chi angen cwrs nad yw wedi'i restru ar ein gwefan ni, bydd ein hyfforddwyr medrus yn gallu rhoi sylw iddo. Cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar 0300 3003112 neu e-bostiwch ni ar info@plasmenai.wales i drafod cyrsiau pwrpasol.
Sylwer, as ellir darparu ein rhaglen Iotio / Morio ar hyn bryd trwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd gallu ieithyddol y sgipwyr.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty:
You can retake your photo as many times as you like, when you're happy with you photo press save. Once your photo has been saved, if you need to change this please contact us.