RYA Accredited Theory Courses

Cyrsiau theori

Cyrsiau theori achrededig RYA

Sicrhewch fod gennych y wybodaeth gefndirol a'r cymwysterau angenrheidiol ar waith cyn i chi fynd i'r dŵr.

Mae llawer o’r cyrsiau, y cymwysterau a’r ardystiadau a gynigir ym Mhlas Menai yn gofyn am wybodaeth theori ac asesiadau, yn ogystal â sgiliau ar y dŵr. Rydym yn cynnig detholiad o gyrsiau theori ar-lein ac yn y ganolfan, i helpu i sicrhau bod gennych yr wybodaeth gefndir ac unrhyw gymwysterau angenrheidiol cyn i chi fynd i'r dŵr.

Mae ein cyrsiau sydd wedi’u hachredu gan yr RYA yn cael eu cydnabod ar draws y byd, sy’n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau personol neu yrfa mewn canolfannau ledled y byd. Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, rydym yn sicrhau bod ein hyfforddwyr ym Mhlas Menai yn darparu’r wybodaeth a’r addysg orau bosibl, gyda chefnogaeth blynyddoedd lawer o brofiad ymarferol mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored ac ar y dŵr.

Darganfyddwch fwy am yr holl gyrsiau theori rydyn ni'n eu cynnig gan ddefnyddio'r dolenni isod. Os oes arnoch chi angen cwrs theori nad yw wedi'i restru ar ein gwefan ni, bydd ein hyfforddwyr medrus a phrofiadol yn gallu rhoi sylw iddo. Cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar 0300 3003112 neu e-bostiwch ni ar info@plasmenai.wales i drafod cyrsiau pwrpasol.

Theori dosbarth

Theori dosbarth

theori ar-lein

theori ar-lein

Added to Cart
×

Qty:

Checkout