Cartref antur awyr agored yng Ngogledd Cymru
1 day
10.00 - 15.00
None
16 yrs
Adeiladwch rôl gref a chyson ar y cwrs rholio caiac yma.
Mae’r gallu cyson i rolio caiac mewn sefyllfa bywyd go iawn yn helpu gyda hyder ac hefyd yn agor posibilrwydd i fynd a’ch padlo i’r lefel nesaf mewn amodau mwy heriol.
Yn ystod y diwrnod, rydym yn gobeithio rhoi sylw i’r canlynol:
Mae'r clinig undydd hwn yn cael ei redeg yn ein pwll nofio dan do wedi'i gynhesu, ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer rhai nad ydynt yn rholio a'r rhai sy'n dymuno gwella neu berffeithio eu techneg.
Bydd ein hyfforddwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, propiau ac adborth fideo i'ch helpu i gyflawni rôl ddibynadwy. Er na allwn warantu y byddwch yn gallu rholio erbyn diwedd y dydd, byddwch yn gadael gyda fframwaith yn ei le a fydd yn eich helpu i gyrraedd y nod o rôl ddibynadwy.
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o'r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd, arweiniad ac anogaeth glir.
Bydd Plas Menai yn darparu'r holl offer angenrheidiol a dillad amddiffynnol personol gan gynnwys siwtiau gwlyb.
Dewch â’r canlynol gyda chi:
Dillad nofio a thywel
Padl os oes gennych
Efallai gogls neu clip trwyn
50c ar gyfer locer
Unwaith y bydd gennych rôl ddibynadwy, mae'r posibiliadau ar gyfer ymgymryd ag amodau mwy heriol yn wir yn agor. Beth am roi cynnig ar ein Cyflwyniad i Ddŵr Symudol a Llanw, neu herio eich hun gyda’n hamrywiaeth o alldeithiau, dan arweiniad ein hyfforddwyr caiac profiadol.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty: