Experience Windsurfing at Plas Menai

Hwylfyrddio

Profiad Hwylfyrddio ym Mhlas Menai

Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngogledd Cymru

Yn gyfuniad perffaith o syrffio a hwylio, mae gwyntsyrffio yn brofiad cyffrous. Os ydych chi’n newydd i’r gamp ddŵr, bydd ein hyfforddwyr hynod fedrus a phrofiadol yn eich arwain drwy’r pethau sylfaenol, gan eich helpu i feistroli’r technegau sydd arnoch eu hangen i sicrhau eich bod yn barod i fynd allan, dal y gwynt a reidio’r tonnau.

Gall gwyntsyrffwyr mwy profiadol wella eu sgiliau ar ein cyrsiau uwch, lle byddwch chi'n dysgu hwylio mewn gwyntoedd cryfach. Bydd ein hyfforddwyr hynod fedrus a phrofiadol hefyd yn rhoi sylw i ystod eang o dechnegau, gan eich helpu i feithrin eich hyder allan ar y dŵr.

Rydym hyd yn oed yn cynnig cyrsiau hyfforddwyr, wedi'u hachredu gan yr RYA (y Royal Yachting Association), i'r rhai sydd eisiau mynd â'u sgiliau i'r lefel nesaf a dechrau gyrfa yn y diwydiant awyr agored.

Os ydych chi’n wyntsyrffiwr profiadol sydd eisiau mynd allan ar y dŵr, neu’n gwbl newydd ac yn rhoi cynnig ar y gweithgaredd am y tro cyntaf, mae ein detholiad o weithgareddau a chyrsiau wedi’u cynllunio i bawb gymryd rhan. Darganfyddwch fwy gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Os ydych yn dymuno i'r cwrs / gweithgaredd hwn gael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, nodwch hynny yn y nodiadau wrth archebu a gallwn sicrhau bod gennych hyfforddwr sy'n siarad Cymraeg.

Darganfod Hwylfyrddio

Darganfod Hwylfyrddio

£39.95 y pen
Added to Cart
×

Qty:

Checkout