Hwylio - Hyfforddiant Hyfforddwr
Dod yn hyfforddwr hwylio ym Mhlas Menai
Dysgwch y sgiliau a'r technegau sydd eu hangen i gyfarwyddo ystod o gyrsiau hwylio gyda'n hamrywiaeth o gyrsiau hyfforddwr hwylio achrededig RYA.
Ym Mhlas Menai, rydym yn falch o fod ag enw da yn rhyngwladol am gyflwyno cyrsiau o’r safon uchaf. O gyrsiau Hyfforddwyr Dingi i gyrsiau Hyfforddwyr Cychod Cîl, Aml-Gwch, Hŷn a Morio, bydd y cyfranogwyr yn cael hyfforddiant ar y dŵr a sesiynau ar y lan sy'n cynnwys cymysgedd o sgiliau ymarferol ac addysgu.
Ar ôl cwblhau pob cwrs, bydd gennych y cymwysterau i hyfforddi’r lefelau sgiliau a’r cyrsiau perthnasol ar draws y byd, wedi’u hachredu gan yr RYA, un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf blaenllaw y byd a gydnabyddir yn fyd-eang.
Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad yn hyfforddi hwylio, rydym yn falch o gynnig y cyrsiau hyfforddi gorau yn unig, gyda chefnogaeth hyfforddwyr eithriadol fedrus sy’n addysgu cyfuniad o sgiliau ymarferol ar y dŵr a theori ar y lan.
Mae mwy o wybodaeth am ein holl gyrsiau hyfforddwyr hwylio a gydnabyddir yn fyd-eang ar gael drwy ddilyn y dolenni isod.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty:
You can retake your photo as many times as you like, when you're happy with you photo press save. Once your photo has been saved, if you need to change this please contact us.