Personal Tuition & Courses Tailored to Match Your Needs

Hyfforddiant Personol

Hyfforddiant Personol wedi'i deilwra i gyd-fynd â'ch anghenion

Manteisiwch ar ddull personol a manteisiwch i'r eithaf ar y dŵr ac mewn gweithgareddau ar y tir gyda hyfforddiant personol ym Mhlas Menai.

Manteisiwch ar ein dull personol o weithredu a gwneud y mwyaf o'ch amser ar y dŵr gyda hyfforddiant personol ym Mhlas Menai.


Mae ein sesiynau personol ar gael ar amrywiaeth o lefelau sgiliau, o ddechreuwr i uwch a sesiynau hyfforddwr hyd yn oed, mewn gweithgareddau sy’n cynnwys hwylio, hwylfyrddio, caiacio, padlfyrddio yn sefyll, gyrru cychod pŵer, wingsyrffio, wingffoilio, dingi a chyrsiau cerbydau dŵr personol.


Mae ein holl sesiynau personol wedi’u teilwra i gyd-fynd â’ch anghenion pwrpasol, a gellir eu cynnal dros hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, ar sail un i un, dau i un, neu grŵp bach, a’r cyfan yn dibynnu ar eich gofynion.


Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, rydym yn falch o gael ein cydnabod yn rhyngwladol, gan gynnig hyfforddiant o'r safon uchaf. Os oes arnoch chi angen rhywbeth penodol nad yw wedi'i restru ar ein gwefan ni, bydd ein hyfforddwyr medrus yn gallu rhoi sylw iddo a gallwn greu sesiynau a chyrsiau pwrpasol i gwrdd â'ch gofynion.


Cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar 0300 3003112 neu e-bostiwch ni ar info@plasmenai.wales i drafod cyrsiau pwrpasol, neu i gael gwybod mwy am ein holl gyrsiau, defnyddiwch y dolenni isod.

Added to Cart
×

Qty:

Checkout