Padlfyrddio
Cymryd rhan mewn antur padlfyrddio
Croeso i fyd padlfyrddio - gweithgaredd ar y dŵr sy'n rhannau cyfartal yn ymlacio ac yn hwyl i'r teulu cyfan!
Chwilio am weithgaredd ar y dŵr sy’n cynnwys cyfle i ymlacio a hwyl i’r teulu cyfan? Croeso i fyd padlfyrddio ym Mhlas Menai!
Os ydych chi’n padlfyrddio am y tro cyntaf neu’n badlfyrddiwr brwd sy'n awyddus i fynd yn ôl ar y dŵr agored, mae padlfyrddio yn sefyll yn weithgaredd hynod boblogaidd y gall y teulu cyfan gymryd rhan ynddo.
Mae sesiynau ieuenctid, sydd ar gael i blant wyth oed a hŷn, yn cynnig llond gwlad o hwyl i blant, lle gallant wneud ffrindiau newydd a mwynhau padlfyrddio mewn amgylchedd diogel, cefnogol gyda gofal o'r safon uchaf, wrth brofi digon o antur.
Dewch i’n sesiynau cyffredinol ni fel teulu, grŵp, neu’n unigol i fwynhau’r gweithgaredd a chyfarfod pobl debyg i chi. Ar ôl i chi feistroli'r pethau sylfaenol, ewch allan ar antur go iawn sy'n llawn archwilio gwefreiddiol, gemau cyffrous a heriau, lle byddwch chi wir yn gallu rhoi eich sgiliau ar brawf.
Os ydych yn dymuno i'r cwrs / gweithgaredd hwn gael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, nodwch hynny yn y nodiadau wrth archebu a gallwn sicrhau bod gennych hyfforddwr sy'n siarad Cymraeg.
Darganfyddwch fwy am ein holl gyrsiau padlfyrddio a’n dyddiau gweithgarwch gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty:
You can retake your photo as many times as you like, when you're happy with you photo press save. Once your photo has been saved, if you need to change this please contact us.