Buy Criw Medrus yr RYA / Capten Dydd - 5 dwirnodd

Cartref antur awyr agored yng Ngogledd Cymru

Criw Medrus yr RYA / Capten Dydd - 5 dwirnodd

  • 5 noson a 5 diwrnod 
  • Criw Comp - Mynd ar y gweill, trin hwylio, dyn dros ben llestri adferiad
  • Skipper Dydd - Cynllunio Taith, peilotiaeth, cyfrifoldebau sgipio 

Archebwch eich tocynnau

Nifer (1 i 5)

Pris Oddiwrth £824.95

  • 5 noson a 5 diwrnod 
  • Criw Comp - Mynd ar y gweill, trin hwylio, dyn dros ben llestri adferiad
  • Skipper Dydd - Cynllunio Taith, peilotiaeth, cyfrifoldebau sgipio 

Prif wybodaeth

Hyd

5 Days

Amseroedd Rhedeg

19:00 - 17:00

Tystysgrifau a Ddyfarnwyd

Safon ofynnol

None for Comp Crew however Day Skipper requires at least 5 days on-the-water sailing experience including 4 night hours and 100 miles logged, Also theory knowledge to the level of Day Skipper Theory.

Isafswm Oed

18

Cyfle i ddysgu hwylio ar y cwrs morio pum diwrnod pleserus yma lle mae’r cyrsiau RYA Criw Medrus ac RYA Capten Dydd yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd.

RYA Criw Medrus: Mae’r cwrs yma ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sydd eisiau bod yn aelod criw gweithredol, yn hytrach na dim ond teithiwr. 

RYA Capten Dydd: Mae’r cwrs yma ar gyfer y rhai sydd eisiau bod yn gapten ac sydd â rhywfaint o brofiad hwylio a sgiliau mordwyo a hwylio sylfaenol.

Pwyntiau dysgu allweddol: Yr iot, dechrau arni, rheolau’r ffordd, trin hwyliau, gwaith llywiwr, peilota, mordwyo, achub person sydd wedi syrthio i’r d?r, dillad, offer, rhagofalon ac offer argyfwng, cynnal a chadw injan, llunio llwybr, hwylio yn ystod y nos a meteoroleg.
Mae ein hyfforddwyr ni i gyd yn gapteiniaid hynod wybodus a phrofiadol a byddant yn sicrhau eich bod yn cael y gorau allan o’ch amser ar fwrdd yr iot.   

Prydau bwyd ar fwrdd y cwch: Bydd digon o fwyd yn y cwch i ddarparu tri phryd y dydd a hefyd byrbrydau a diodydd. Os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig o ran deiet, cofiwch eu nodi wrth archebu.
Yr Iot: Hanse 385 38 troedfedd. Mae’r iot yma wedi’i chodio’n fasnachol gan RYA/MCA fel iot sy’n cydymffurfio â chategori 2 a gall gludo 6 o bobl gan gynnwys y Capten. Ymhlith y cyfleusterau ar y bwrdd mae: gwres, d?r poeth, popty, oergell, toiled, Radar, GPS ac AIS.

Cyrraedd a Gadael: Mae ein holl gyrsiau morio wythnos yn dechrau am 7.00pm ar y nos Sul. Cofiwch gyfarfod eich capten yn y Dderbynfa am 7pm, lle cewch friff byr a dillad dal d?r, cyn gyrru i lawr at yr iot, sydd wedi’i hangori yn y Felinheli, ryw 5 munud o’r Ganolfan. Byddwch yn aros ar fwrdd yr iot am bump noson eich cwrs

Cofiwch ddod â’r canlynol gyda chi; dillad cynnes, sach gysgu a welingtyns hwylio (nid rhai gwadnau duon)  

Y Camau Nesaf: Os ydych chi eisiau datblygu eich morio, dylai’r rhai sydd ar y cwrs RYA Criw Medrus ystyried symud ymlaen i lefel RYA Capten Dydd. Argymhellir eich bod yn cwblhau RYA Theori Capten Dydd cyn sefyll tystysgrif ymarferol RYA Capten Dydd. Ar gyfer y rhai sy’n cwblhau tystysgrif RYA Capten Dydd, dylech gasglu oriau, profiad a gwybodaeth theori hyd at lefel RYA Theori Iotfeistr/Capten Arfordirol cyn ystyried cwrs ymarferol RYA Capten Arfordirol.

Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus eich cwrs [nodwch y cwrs yr ydych yn ei gyflwyno yn y categori hwn] bydd eich enw, manylion cyswllt, dyddiad geni, rhif tystysgrif a dyddiad cyhoeddi yn cael eu rhannu gyda’r RYA trwy borth gwe diogel ar www.rya.org.uk. Bydd y data’n cael ei storio ar gronfa ddata ganolog yr RYA. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i’r RYA gofnodi eich cymhwyster, diweddaru unrhyw gofnodion sydd ganddynt ar eich cyfer, a sut i ddilysu eich tystysgrif os oes angen. data, gweler Polisi Preifatrwydd yr RYA

Y Deunydd Darllen a Argymhellir :
RYA Day Skipper Handbook Sail
RYA Competent Crew Skills
Added to Cart
×

Qty:

Checkout