Gyrru Cychod Pŵer / PWC
Dysgwch sut i bweru cychod a gwella eich sgiliau
Profwch gyflymder hamddenol mordaith a'r wefr o rwygo ar draws y dŵr agored gyda'n dewis o gyrsiau cychod pŵer.
Eisiau profiad hamddenol drwy forio’n braf a hefyd y wefr o wibio ar draws y dŵr agored? Mae ein dewis o gyrsiau gyrru cychod pŵer yn cynnig y gorau o ddau fyd, ar gyfer amrywiaeth o lefelau sgiliau!
Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, rydym yn sicrhau bod ein hyfforddwyr hynod fedrus yn darparu'r hyfforddiant gorau posibl i unrhyw un sy'n dilyn ein cyrsiau ni, os ydych chi’n mynd allan ar y dŵr am y tro cyntaf, neu'n yrrwr cychod pŵer profiadol ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau.
Mae cwrs Cychod Pwer Lefel 1 – Dechrau Gyrru Cychod Pŵer yr RYA yn gyfle gwych i chi dreulio'r diwrnod ar y dŵr, heb fod angen unrhyw brofiad blaenorol. Gallwch hefyd ddod â hyd at ddau o blant gyda chi, ffordd wych o ennyn diddordeb y teulu mewn cychod, a dechrau datblygu sgiliau o oedran iau.
Bydd ein cyrsiau Canolraddol ac Uwch yn helpu’r cyfranogwyr i adeiladu ar eu sgiliau gyrru presennol, a datblygu eu hyfedredd wrth drin cychod pŵer mewn amodau mwy heriol. Bydd y cyrsiau hyn hefyd yn eich galluogi i yrru cychod pŵer mwy, a mwy pwerus, ar ddyfroedd arfordirol.
Mae ein holl gyrsiau ni wedi'u hachredu gan yr RYA. Ar ôl eu cwblhau, byddwch yn cael tystysgrif a gydnabyddir yn rhyngwladol a fydd yn eich galluogi i yrru cychod pŵer mewn canolfannau ledled y byd. Darganfyddwch fwy am ein holl gyrsiau sydd ar gael isod.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty:
You can retake your photo as many times as you like, when you're happy with you photo press save. Once your photo has been saved, if you need to change this please contact us.