Gweithgareddau
Ymunwch â ni am ddewis eang o weithgareddau awyr agored, naill ai fel teulu, gyda grŵp o ffrindiau, neu fel unigolyn i fod yn rhan o grŵp ehangach, yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai.
O badlfyrddio yn sefyll a gwyntsyrffio a gwyntffoilio i hwylio, gyrru cychod pŵer a iotio, mae ein hystod eang o weithgareddau ar y dŵr yn sicr o ddiddanu’r teulu cyfan, gyda chyrsiau a theithiau sy’n addas ar gyfer pawb sy’n wyth oed a hŷn.
Fel canolfan yr RYA (y Royal Yachting Associated) gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad o gynnal gweithgareddau ar y dŵr, rydym yn falch o fod ag enw da yn rhyngwladol am ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau gorau i’n cwsmeriaid.
Bydd ein cyrsiau ieuenctid, ein teithiau a’n hwythnosau gweithgarwch yn diddanur plant, wrth iddynt wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn anturiaethau gwefreiddiol, gan greu atgofion a fydd yn para am oes.
Ac nid dim ond gweithgareddau dŵr sy’n cael eu cynnig yma! Rydym yn cynnal detholiad o anturiaethau dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys rhaffau uchel, wal ddringo, a theithiau beicio mynydd.
Mae ein holl gyrsiau a’n gweithgareddau ni’n cael eu harwain gan hyfforddwyr hynod gymwys a medrus, wrth i ni wneud eich diogelwch ach mwynhad chi yn brif flaenoriaeth i ni.
Darganfyddwch fwy am ein holl weithgareddau gan ddefnyddior dolenni isod.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty:
You can retake your photo as many times as you like, when you're happy with you photo press save. Once your photo has been saved, if you need to change this please contact us.