Yachting & Cruising

Yachting & Cruising

Iotio / Morio

Outdoor activities in north wales

Ewch i’r dŵr agored a mentro i ddetholiad o ardaloedd o amgylch arfordir Gogledd Cymru gyda’n hamrywiaeth o brofiadau iotio.

Rydym yn falch o gynnig ystod eang o gyrsiau a theithiau ar gyfer pob lefel sgiliau, os ydych chi’n gapten profiadol sy'n gobeithio dod yn iotfeistr, neu'n gwbl newydd i'r gweithgaredd ac eisiau profi’r dŵr am y tro cyntaf mewn môr agored.

Mae ein penwythnos Morio Môn yn gyfle perffaith i unrhyw un sydd eisiau cyflwyniad syml a phleserus i forio, neu i’r rhai sydd eisiau gloywi rhai sgiliau efallai. Heb unrhyw agenda sefydlog, rydych chi'n rhydd i fanteisio ar eich amser ar y dŵr gan ddysgu technegau newydd, neu fwynhau amser hamddenol gyda theulu a ffrindiau.

Gyda bywyd gwyllt a golygfeydd godidog, gan gynnwys clogwyni môr, cestyll hanesyddol a threfi glan môr syfrdanol, rydych chi'n siŵr o fwynhau'r antur. Ac fel canolfan yr RYA (y Royal Yachting Associated) sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, rydych chi'n gwybod eich bod chi yn y dwylo gorau.

Mae mwy o wybodaeth am unrhyw un o'n cyrsiau a’n teithiau hwylio ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Penwythnos Morio - 2 ddiwrnod

Penwythnos Morio - 2 ddiwrnod

2 noson a 2 ddiwrnod  Cyflwyniad delfrydol i hwylio cychod mawr Dim profiad angenrheidiol
£357.50 y pen
Added to Cart
×

Qty:

Checkout