Wingsurfing & Wingfoiling Activities

Wingsurfing & Wingfoiling

Wingsyrffio a Wingffoilio

Outdoor activities in north wales

Nid yw’n gyfrinach bod y gweithgareddau gwefreiddiol yma wedi cydio’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd ein dewis ni o gyrsiau yn golygu y byddwch chi’n gleidio uwchben y dŵr mewn dim o amser.

Mae'r hyfforddwyr hynod fedrus ym Mhlas Menai wrth law i'ch arwain chi drwy'r gweithgareddau hwyliog a chyffrous yma, sy'n addas ar gyfer pawb 12 oed a hŷn. Mae cyrsiau Dysgu Wingsyrffio a Wingffoilio – Siwrnai Gyntaf yr RYA yn gyflwyniad perffaith, a byddant yn helpu newydd-ddyfodiaid i fynd allan ar y dŵr, cwblhau eu siwrnai gyntaf, a gwella eu hyder.

I'r rhai sy'n fwy profiadol yn y gamp ac sydd eisiau mynd allan ar y dŵr yn syth, bydd ein cwrs Gwella Eich Wingsyrffio gan yr RYA yn helpu’r cyfranogwyr i fagu mwy fyth o hyder, gwella eu sgiliau a dysgu technegau newydd.

Mae wingsyrffio a wingffoilio yn fwy na dim ond chwaraeon - byddwch yn cymryd rhan mewn antur gyffrous uwchben y dŵr. Mae mwy o wybodaeth am ein holl gyrsiau a’n gweithgareddau ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.



Added to Cart
×

Qty:

Checkout