Youth Courses - Begin Your Sailing Career at an Early Age

Cyrsiau Ieuenctid

Cyrsiau Ieuenctid - Datblygu sgiliau o oedran cynnar

Mae ein dewis o gyrsiau yn cynnig yr opsiwn perffaith i blant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ar y dŵr a dysgu sgiliau gwerthfawr o oedran ifanc.

I bobl ifanc sydd eisiau dechrau eu gyrfa hwylio o oedran cynnar, neu deuluoedd sydd eisiau diddanu’r plant, mae ein hamrywiaeth o gyrsiau ieuenctid yn darparu amgylchedd dysgu hwyliog a chefnogol i blant wyth oed a hŷn ddysgu sgiliau newydd ar y dŵr ac ar y tir.

O hwylio i wyntsyrffio a gyrru cychod pŵer, mae ein dewis o gyrsiau yn cynnig yr opsiwn perffaith i blant gymryd rhan yn ein gweithgareddau ar y dŵr a dysgu sgiliau gwerthfawr o oedran ifanc. Byddant yn gallu defnyddio’r sgiliau hyn mewn canolfannau ar draws y byd, gyda chyrsiau achrededig yr RYA sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

I'r rhai sydd eisiau wythnos o fwrlwm yn llawn gweithgareddau, mae ein Hwythnos Antur yn gyfle perffaith i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a mwynhau anturiaethau di-dor. Gyda chyffro ac antur rownd pob cornel, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y dŵr ac oddi arno. O feicio mynydd i gaiacio, gwyntsyrffio i ganŵio, adeiladu cuddfannau a byw yn y gwyllt i badlfyrddio yn sefyll, does byth eiliad ddiflas.

Darganfyddwch fwy am yr Wythnos Antur llawn hwyl ac wythnosau Traeth, Môr, Hwylio a Syrffio ynghyd â'n holl gyrsiau ieuenctid sydd wedi’u hachredu gan yr RYA gan ddefnyddio'r dolenni isod.


Youth Sailing

Youth Sailing

Youth Windsurf

Youth Windsurf

Youth Powerboat

Youth Powerboat

Wythnos Antur

Wythnos Antur

£275.00 y pen
Traeth, Mor, Hwylio a Syrffio

Traeth, Mor, Hwylio a Syrffio

£275.00 y pen
Added to Cart
×

Qty:

Checkout