Learn to Powerboat and Improve Your Skills

Gyrru Cychod Pŵer / PWC

Dysgwch sut i bweru cychod a gwella eich sgiliau

Profwch gyflymder hamddenol mordaith a'r wefr o rwygo ar draws y dŵr agored gyda'n dewis o gyrsiau cychod pŵer.

Eisiau profiad hamddenol drwy forio’n braf a hefyd y wefr o wibio ar draws y dŵr agored? Mae ein dewis o gyrsiau gyrru cychod pŵer yn cynnig y gorau o ddau fyd, ar gyfer amrywiaeth o lefelau sgiliau!

Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, rydym yn sicrhau bod ein hyfforddwyr hynod fedrus yn darparu'r hyfforddiant gorau posibl i unrhyw un sy'n dilyn ein cyrsiau ni, os ydych chi’n mynd allan ar y dŵr am y tro cyntaf, neu'n yrrwr cychod pŵer profiadol ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau.

Mae cwrs Cychod Pwer Lefel 1 Dechrau Gyrru Cychod Pŵer yr RYA yn gyfle gwych i chi dreulio'r diwrnod ar y dŵr, heb fod angen unrhyw brofiad blaenorol. Gallwch hefyd ddod â hyd at ddau o blant gyda chi, ffordd wych o ennyn diddordeb y teulu mewn cychod, a dechrau datblygu sgiliau o oedran iau.

Bydd ein cyrsiau Canolraddol ac Uwch yn helpu’r cyfranogwyr i adeiladu ar eu sgiliau gyrru presennol, a datblygu eu hyfedredd wrth drin cychod pŵer mewn amodau mwy heriol. Bydd y cyrsiau hyn hefyd yn eich galluogi i yrru cychod pŵer mwy, a mwy pwerus, ar ddyfroedd arfordirol.

Mae ein holl gyrsiau ni wedi'u hachredu gan yr RYA. Ar ôl eu cwblhau, byddwch yn cael tystysgrif a gydnabyddir yn rhyngwladol a fydd yn eich galluogi i yrru cychod pŵer mewn canolfannau ledled y byd. Darganfyddwch fwy am ein holl gyrsiau sydd ar gael isod.

Uwch Cychod Pŵer yr RYA - 2 ddiwrnod 1 noson

Uwch Cychod Pŵer yr RYA - 2 ddiwrnod 1 noson

£352.00 y pen
Hyfedredd Cerbydau Dŵr Personol yr RYA - 1 diwrnod

Hyfedredd Cerbydau Dŵr Personol yr RYA - 1 diwrnod

£275.00 y pen
Cychod Pwer Lefel 2 yr RYA - 2 ddiwrnod

Cychod Pwer Lefel 2 yr RYA - 2 ddiwrnod

£352.00 y pen
RYA Intermediate Powerboat - 2 days

RYA Intermediate Powerboat - 2 days

£352.00 y pen
Cwch Diogelwch RYA

Cwch Diogelwch RYA

£352.00 y pen
Cychod Pŵer RYA Lefel 1 - Sesiwn deuluol

Cychod Pŵer RYA Lefel 1 - Sesiwn deuluol

£372.90 per family
Added to Cart
×

Qty:

Checkout