Gwyntsyrffio, Wingsyrffio a Ffoilio - Hyfforddiant Hyfforddwr
Dod yn gwyntsyrffio, wingsyrffio a hyfforddwr ffoilio
Cymerwch ran mewn cyrsiau Hyfforddwr gwyntsyrffio, Wingsysffio a Foilio Instructor, a gynlluniwyd i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i addysgu ar amrywiaeth o lefelau.
Mae ein hystod o gyrsiau Hyfforddwyr Gwyntsyrffio, Wingsyrffio a Ffoilio wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i addysgu ar amrywiaeth o lefelau, gan helpu’r cyfranogwyr i ddechrau ar eu gyrfaoedd neu eu datblygu yn y diwydiant awyr agored.
Bydd cwrs Hyfforddwr Dechrau Gwyntsyrffio yr RYA yn rhoi sylw i ddefnyddio efelychydd, arddangosfeydd ar y dŵr a thechnegau addysgu grŵp. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn gymwys i addysgu’r cwrs Dechrau Gwyntsyrffio a chamau 1 a 2 o’r Cynllun Gwyntsyrffio Ieuenctid o dan oruchwyliaeth uwch hyfforddwr.
Gall gwyntsyrffwyr a hyfforddwyr profiadol wella eu gallu personol mewn hwylio ac addysgu wrth ennill y sgiliau angenrheidiol i addysgu cynlluniau a chyrsiau lefel uwch, gyda chyrsiau Hyfforddwr Gwyntsyrffio Canolraddol ac Uwch yr RYA. Bydd y cyrsiau hyfforddwyr hyn yn galluogi’r cyfranogwyr i addysgu detholiad ehangach o gyrsiau mewn canolfannau gwyntsyrffio perfformiad uchel sy'n cynnal gwersi’r RYA.
Fel un o’n cynigion diweddaraf, mae cwrs Hyfforddwr Wingsyrffio / Gwyntffoilio pum diwrnod yr RYA yn paratoi’r hyfforddwyr i gyflwyno byd newydd a chyffrous wingio i gynulleidfa fwy mewn ffordd ddiogel a blaengar. Gan gyfuno hyfforddiant ac asesiadau ar y dŵr gyda sesiynau ar y lan sy'n rhoi sylw i dechnegau addysgu, mae'r cwrs yma’n rhoi sylw i gymysgedd o bynciau ymarferol a theori.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’n cyrsiau ac i archebu eich lle, cliciwch ar y dolenni isod.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty:
You can retake your photo as many times as you like, when you're happy with you photo press save. Once your photo has been saved, if you need to change this please contact us.