Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai
Croeso i Blas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru a chartref anturiaethau awyr agored cyffrous. Archwiliwch ein amrywiaeth eang o weithgareddau dŵr a thir ar gyfer pob oedran a lefel sgiliau.
Beth allwch chi ei wneud
Fel canolfan RYA, rydym yn cynnig dewis eang o gyrsiau dŵr a thir i fynd â chi ar lwybr o ddechreuwr i lefel uwch, hyd yn oed hyd at lefel hyfforddi, gyda chymwysterau a thystysgrifau wedi'u cydnabod mewn canolfannau ledled y byd.
O badlfyrddio ar eich traed, hwylfyrddio a phadlo gwynt, i hwylio, cychod pŵer a chychod hwylio, mae ein hystod eang o weithgareddau ar y dŵr yn sicr o ddiddanu’r teulu cyfan, gyda chyrsiau a theithiau sy’n addas ar gyfer wyth oed a hŷn.
Nofio
Mae gwersi nofio i oedolion ac iau yn helpu cyfranogwyr o bob oed i ddatblygu ac aros yn ddiogel ger y dŵr, wrth ddysgu gweithgaredd hwyliog ac iach.
Llety
Ymestyn eich arhosiad ym Mhlas Menai a phrofi'r antur eithaf gyda llety premiwm ar y safle sy'n croesawu cŵn, gydag opsiynau bwrdd llawn i fodloni'ch holl ofynion arlwyo.
Ysgolion a Grwpiau
Profwch gyffro diwrnodau antur wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer grwpiau o bob oed a maint ym Mhlas Menai a chreu atgofion bythgofiadwy gyda’n hamrywiaeth o weithgareddau dan do, awyr agored, ac ar y dŵr.
Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod cyfrinair
Creu cyfrif? Cliciwch yma
Qty: